Rachel Ross spends much of her time outside school caring for her mother, who suffers from depression, and her younger sister; but the highlights of her week are the drama group sessions she belongs to. She feels safe there ... a different experience to school, where she is bullied because of her disability.
Ers iddi fod yn ferch fach roedd Rebecca wrth ei bodd yn dweud straeon, ac o fod yn ifanc iawn gwyddai mai ysgrifennu nofelau oedd hi am wneud. Ers graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae Rebecca wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd. Mae hi'n byw Mhrestatyn, gyda’i gŵr a phlant. Enillodd #Helynt, ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Wobr Tir na n-Og 2021 a Llyfr y Flwyddyn Plant a Phobl Ifanc 2021.
From a very young age Rebecca knew that she wanted to be a novelist. Since graduating from Bangor University with a BA(hons) in English and Creative Writing Rebecca has worked as a teacher, Welsh development officer, humanist celebrant and translator. She lives in Prestatyn, with her husband and children. Her first YA novel, #Helynt, won a 2021 Tir na n-Og Award and the 2021 Book of the Year (Children and Young People Category).
Mi wnes i wir fwynhau hwn. Mae'r stori a'r cymeriadau yn gredadwy iawn a mae 'na ambell i linell ddoniol yma hefyd. Dwi mor falch fod Rebecca Roberts wedi sgrifennu'r nofel yma i oedolion ifanc - mae wir angen mwy o lyfrau fel hyn. Mae'r llyfr yn haeddu fod ar rhestr fer Gwobr Tir N'a Nog - pob lwc, Rebecca!
Wnes i mwnahau y llyfr hon. Wnes i licio'r prif gymeriad - mae hi'n hogan cryf. Roedd y stori yn dypin bach o 'page turner', wnes i isio gwybod beth sydd yn mynd i digwydd nesa. Stori dda. Dwi wedi mwynhau o digon i darllen (a mwynhau) o dwy waeth. Edrych ymlaen at darllen mwy am Rachel!
Wnes i fwynhau’r nofel hon! Roedd adnabod rhai o’r lleoliadau yn helpu (a tybed ydw i’n adnabod Mr Tate?!) ac mae’r stori a’r cymeriadau’n gredadwy. Mae Rebecca wedi creu nofel sy’n trafod themau y mae gwir eu hangen mewn llenyddiaeth Gymraeg i arddegwyr. Dwi’n gobeithio gallwn ni archebu set i’r ysgol ac y ca i ei darllen gyda rhyw ddosbarth!