Jump to ratings and reviews
Rate this book

Mwy o Helynt

Rate this book
Mae Rachel Ross wedi llwyddo i greu bywyd newydd gyda'i mam a'i chwaer, a setlo mewn ysgol newydd. Mae hi'n dechrau dod i adnabod ei thad go iawn, hefyd. Ond wrth i Jason, y dyn a'i magodd, baratoi i gael ei ryddhau o’r carchar, a oes ganddi le i boeni? Dilyniant i #Helynt, a enillodd wobrau Llyfr y Flwyddyn a Tir na n-Og yn 2021.

Rachel Ross has succeeded in creating a new life for herself and her mother, and has settled into her new school. She has also begun to get acquainted with her blood father. But should she feel anxious as Jason, the man who raised her, prepares to be released from prison? A sequel to #Helynt, winner of both Book of the Year and Tir na n-Og in 2021.

180 pages, Paperback

Published May 1, 2023

Loading...
Loading...

About the author

Rebecca Roberts

11 books23 followers
Ers iddi fod yn ferch fach roedd Rebecca wrth ei bodd yn dweud straeon, ac o fod yn ifanc iawn gwyddai mai ysgrifennu nofelau oedd hi am wneud. Ers graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae Rebecca wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd. Mae hi'n byw Mhrestatyn, gyda’i gŵr a phlant. Enillodd #Helynt, ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Wobr Tir na n-Og 2021 a Llyfr y Flwyddyn Plant a Phobl Ifanc 2021.


​From a very young age Rebecca knew that she wanted to be a novelist. Since graduating from Bangor University with a BA(hons) in English and Creative Writing Rebecca has worked as a teacher, Welsh development officer, humanist celebrant and translator. She lives in Prestatyn, with her husband and children. Her first YA novel, #Helynt, won a 2021 Tir na n-Og Award and the 2021 Book of the Year (Children and Young People Category).

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
11 (45%)
4 stars
12 (50%)
3 stars
1 (4%)
2 stars
0 (0%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 2 of 2 reviews
Profile Image for Judith.
1,061 reviews5 followers
May 8, 2023
Mae Rebecca Roberts wedi gwneud o eto - sgwennu nofel i oedolion ifanc sydd yn fodern, delio hefo themau pwysig heb pregethu at ei chynulleidfa, ac yn stori sydd yn gwneud i chi eisiau ei ddarllen i weld beth sy'n digwydd (mi wnes i aros i fyny yn hwyr i'r nos yn ei ddarllen; roeddwn yn ei fwynhau cyn gymaint!)

Nofel wych a wneith apelio nid yn unig at oedolion ifanc (neu plant dros 14) - dwi'n llawer hyn na hynny! Mae neges pwysig i ferched ynddo sydd angen ei ddweud (ac yn pwysicach, ei glywed), a dwi'n cymeradwyo Rebecca am gynnwys hwn yn ei nofel. Mae angen mwy o brif cymeriadau fel Rachel.

Does dim angen darllen #Helynt cyn darllen hwn (ond mi ddyliech chi ei ddarllen eniwe!)

Mor dda a, os nad well na #Helynt (a mae hynny'n dweud rhywbeth!) Fyswn i'n synnu dim os ydi'r nofel yma ennill wobr neu 2; mae'n hollol haeddu nhw.
402 reviews
May 1, 2023
Arbennig! Cignoeth, cyfredol, credadwy.
Displaying 1 - 2 of 2 reviews