Nofel draddodiadol glasurol yw hon, ond mewn gwisg gwbl gyfoes. Yn ôl cyfaddefiad yr awdur ei hun, ei hoff storïau antur yw clasuron fel nofel John Buchan, The Thirty-nine Steps, a ffilmiau fel clasur Hitchcock, North by Northwest. Yr hyn sy’n gwneud Tair Rheol Anhrefn yn wahanol yw’r ffaith mai ei chraidd yw masnacheiddiwch a phrynoliaeth. Mae hi’n ymwneud yn uniongyrchol â’r farchnad defnyddwyr sy’n rheoli pob agwedd o’n bywyd.
Nofel hynod o ddiflas ac annhebygol yw hon. Hawdd i'w darllen, mae'n wir, ond rhaid ddiffodd yr ymennydd o'r dechrau er mwyn mwynhau. Ni fyddwn yn trafferthu. Gwastraff o amser ac arian.