Nofel yn pendilio rhwng 1908 a 2018 yw Salem gan yr awdures boblogaidd, Haf Llewelyn. Mae cysgod y darlun enwog gan Vosper drwy'r stori, a'r hen gred fod llun y diafol yn yn siôl. Mae Neta yn gorfod wynebu bwganod, a thrwy ei gweithredoedd hi mae bywydau Ceri, Beca ac Olwen Agnes yn cael eu heffeithio a bydd rhagfarnau ac agweddau negyddol at rywedd a chonfensiwn yn cael eu herio.A novel that moves from 1908 and 2018. The shadow of Vosper's famous painting is woven through the story, and the belief that the devil's face lies in the shawl. Neta has to face her ghosts, and through her actions, the lives of Ceri, Beca and Olwen Agnes are all affected, and prejudice and negative attitudes towards gender and convention are challenged.
Mae cymaint o haenau yn y llyfr yma. Dw i wedi mwynhau cymaint. Mae'n stori gymhleth ac mae'r awdur yn amlycáu beth sy wedi digwydd mewn ffordd mor gynnil. Rhaid i'r darllenwr fod yn wyliadwrus i ddal y clywiau. Hefyd mae llawer o bynciau pwysig sy'n ddiddorol i'w trafod ee rôl capeli mewn cymdeithas can mlynedd yn ôl, rôl cof a phosibilrwydd bod hanes pwysig yn cael ei golli oni bai ein bod yn cymryd amser i rhannu fe. Nofel ffantastig - dw i'n moyn ei ailddarllen yn synth i werthfawrogi fe mwy.