"Mae'n rhaid i dref fach fel hon gael ff*c-yps, sti. Am beth fasa pawn yn siarad fel arall?"
Dyma nofel gyntaf Casia Wiliam ar gyfer Oedolion Ifanc 16+ oed. Stori yw hi am Leia a Sam, stori gariad gignoeth, sydd hefyd yn stori am gymuned, am ddysgu, am fentro ac am faddeuant. Ar ôl cael eu gorfodi i fod ar wahân am sbel, gwelwn eu bywydau’n croesi eto yn y ganolfan gymunedol, lle mae'r stori'n dechrau.This is Casia Wiliam's first novel for Young Adults 16+. It is the raw love story of Leia and Sam, which is also a story about community, learning, venturing and forgiveness. The story begins at the community centre, where Leia and Sam meet again after being kept apart for some time.
"Cwtsh o nofel sy'n gorlifo gan hiwmor cynnes a chymeriadau byw. Nofel sydd ag adleisiau o Normal People ond sydd hefyd yn fyfyrdod ar berthnasau ac anobaith Cymry gen z". - Megan Angharad Hunter
4.0⭐️ Roeddwn i’n gwerthfawrogi sut oedd y llyfr yn datgelu datblygiad perthynas Sam a Leia. Roedd y naratif yn teimlo’n authetig ac yn gyfoes, gan ddangos bod bywyd yn fyr a bod pethau’n newid yn gyflym, ond mai perthynasau sy’n hollbwysig. Roedd y nofel yn rhoi teimladau tebyg i "Normal People" i mi, ac mae wedi gwneud i mi deimlo’n obeithiol ynghylch dyfodol Leia. Swn i wrth fy modd os bydde ni wedi gallu cael my o wybodaeth ar diwedd y llyfr achos roedd y diwedd yn teimlo braidd yn sydyn - defo favourite welsh read atm 😊