Mewn ffermdy yn sir Benfro, yng nghanol eira mawr 1947, daw athrawes ifanc o hyd i ddau gorff. Mae'r hyn a fu'n gyfrifol am eu marw'n gyfleus o amlwg i lawer o'r gymdeithas - ac yn gyfleus i eraill. Wrth i ganlyniad malais y ddau ledu trwy'r fro a thu hwnt, delir cymeriadau diniwed yn ei sgil, a rhaid i rai holi a ddylent ddweud y gwir i gyd ynteu cadw'n dawel a chyfri'r gost.A crime novel set in a rural Welsh village during the 1940s.
Stori ditectif am fenyw ifanc o'r enw Dela Arthur sy'n glanio yn Sir Benfro fel athrawes ifanc. Ar ei diwrnod cyntaf yn y pentref anghysbell, mae'n mynd ar goll mewn storm eira ac yn darganfod dau gorff mewn ffermdŷ. Mi o'n i wrth fy modd gyda'r nofel yma! Mae Dela yn gymeriad hoffus, mae'r stori yn symud yn ei flaen yn reit handi, ac mae digon o 'who dunnit' i gadw diddordeb heb fynd dros ben llestri. Mae dawn 'da Gwen Parrott ac allai'm aros i ddarllen unrhywbeth arall mae'n sgwennu.