Jump to ratings and reviews
Rate this book

Y Gwyliau

Rate this book
"Mae Sioned yn ysgrifennu gyda llaw ysgafn ond llygaid craff. Ro'n i wir yn teimlo 'mod i yno yn yr Eidal boeth, yng nghwmni'r cymeriadau amryliw ac amrywiol, yn bwyta ac yfed yn galonnog, ac yn dod i'w nabod a chael eu mesur fesul un. Am ddihangfa hyfryd!" Sian Lloyd

Nofel hafaidd rhwydd ei ddarllen gan awdures brofiadol a phoblogaidd.

Pythefnos mewn fila yn Umbria... beth allai fod yn well? Fe fydd bywyd wedi newid am byth erbyn diwedd y gwyliau.

Mae Tudur ac Elinor yn edrych ymlaen at gael ffrindiau i aros yn eu fila gogoneddus yn yr Eidal. Ond mae nifer o gyfrinachau yn llechu o dan yr wyneb gwareiddiedig.

Ymhlith y criw mae'r cyfarwyddwr teledu a'r cyn-garcharor Dylan Morgan a'i wraig Meriel. Yn ymuno â nhw mae Awen, awdur llwyddiannus a Tecwyn, actor Hollywoodaidd â'i wreiddiau yng Ngheredigion. A beth am yr Eidalwyr sy'n gweld eu pentre'n marw o dan bwysau'r tai haf melltigedig? Mae gan bawb rywbeth i'w guddio ar y gwyliau yma ac wrth i'r tymheredd godi fe ddatgelir pob math o wirioneddau a sgerbydau.

Kindle Edition

Published May 31, 2023

1 person is currently reading
12 people want to read

About the author

Sioned Wiliam

4 books3 followers

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
1 (4%)
4 stars
9 (40%)
3 stars
10 (45%)
2 stars
2 (9%)
1 star
0 (0%)
No one has reviewed this book yet.

Can't find what you're looking for?

Get help and learn more about the design.