Dau dditectif. Dwy ffrind. Dau frawd. Un dyn drwg.
Yn y dyfodol agos mewn gwlad debyg iawn i'r Gymru gyfoes, mae lladron meistrolgar yn dwyn o dan drwynau crachach Gerddi Hwyan, gan gythruddo a drysu Aled Colwyn a Richard King, y ditectifs sydd ar eu trywydd.
Yn y cyfamser, mae Catrin yn poeni'n arw am ei ffrind gorau a'i phartner busnes, Ceri, sy'n cael ei cham-drin gan ei gwr; tra bod y brodyr Morgan a Prys Caradog yn lladd eu hunain ar ran busnes adeiladu eu hewythr, Mr C, heb dderbyn y clod a'r wobr ariannol maen nhw'n eu haeddu.
Ond wrth i fywydau'r cymeriadau canolog blethu a chymhlethu y tu hwnt i'w rheolaeth mae'r hanes yn cyrraedd uchafbwynt ysgytwol yn ucheldiroedd Eryri. A fydd dihiryn go iawn y nofel yn cael ei haeddiant?
Funny (and sad); liked the attempt to break out of the more usual Welsh background (this is not the Papur Bro picture of Wales). Could have done without some of the graphic bits, but enjoyed it on the whole and it made me laugh a few times despite the seriousness of some of the issues. (and yes, justice was more or less done in the end!)
Wedi mwynhau'r llyfr. Stori ddifyr a hawdd i'w ddarllen. Nid dyma nofel orau Llwyd Owen yn fy marn i ond mae'n ddarllenadwy, y cymeriadau'n ddigon credadwy a'r llinynnau stori'n dod at ei gilydd yn destlus ar ddiwedd y nofel. Stori dda i ddarllen ar y traeth neu wrth ymyl y pwll dros wyliau'r Haf.