Mae Bleddyn, 14 oed, yn ddewr, yn gyfrwys ac yn chwip o ddyn gyda’r bwa.
Mae’n perthyn i lwyth y Bleiddiaid ac mae ganddo bwerau arbennig. Ond a fydd y pwerau hynny’n ddigon pan ddaw’r Dieithriaid i Gymru?
Am y tro cyntaf bydd yn rhaid i Bleddyn weithio gyda llwythau eraill os yw am drechu’r gelyn. Dyna sut mae pedwar ffrind go arbennig yn cyfarfod — Bleddyn, Branwen, Arthur a Drogen. Maen nhw’n gweld fod angen mwy na phwerau dyn i ladd y Dieithriaid. Ond beth yw’r gyfrinach fawr sy’n cuddio ym mynyddoedd Eryri? Ac a fydd yn eu helpu nhw i aros yn fyw?
“Trodd y blaidd ei ben am eiliad, i edrych i fyw eil ygaid, cyn llamu’n ei flaen, mor llyfn, mor hawdd, mor gyflym. Roedd o’n rhedeg yn agosach ato rŵan, fel bod Bleddyn yn gallu gweld y cyhyrau’n glir. Dychmygodd fod ganddo bedair coes fel yna, ei fod yn rhedeg â’i ben yn isel, yn gallu gweld a chlywed gymaint cliriach nag unrhyw ddyn, yn rhedeg mor esmwyth, mor ddiymdrech...
Ac yn sydyn, roedd poepeth gymaint cliriach — gwyrddni’r dail a’r glaswellt yn wyrddach. Gallai glywed pob anifail bychan yn symud o’i ffordd, a synau na chlwyodd eu tebyg erioed; roedd ei ffroenau’n llawn o arogleuon cwbwl newydd iddo. Roedd o’n flaidd!”
*
3, mewn gwirionedd. mae’r stori’n ddigon diddorol ond mae gormod, gormod o anghyfunrywiaeth ynddo — a mai plant ydy’r prifgymeriadau! yn y diwedd mae Bleddyn a Branwen yn siarad am briodi heb eu bod nhw ond un deg pedwar oed! ofnadwy ac, yn wir, diflas i weld sut mae cyfryngau plant yn eu trwythno nhw mewn ideoleg mor ddinistriol.
hefyd, mae’r llyfr yn symud yn rhy gyflym weithiau (fel yn y paragraff uchod) — basai’r holl beth yn well tasai o’n mynd jyst tipyn bach yn arafach.
Llyfr diddorol a gwerth yr ymdrech i'w ddarllen. Dwi'n ddysgwr mewn oed a gallais i'n ei ddarllen yn ddigon hawdd ond mae llawer o eiriaiu i'w chwilio mewn geiriadur. Gobeithio bydd Ms. Gwanas yn ysgrifennu mwy o lyfrau fel hyn.