'Fe wna i adeiladu castell yma i ti, i dy gadw'n ddiogel am byth.'
Teyrnas beryglus yw Brycheiniog y ddegfed ganrif – mor beryglus fel bod rhaid cuddio chwaer y brenin o'r golwg. Nid yw Elwedd wedi cael gadael y castell ar y dŵr am ddeuddeng mlynedd. Ar yr ynys, mae'n ddiogel.