Mae'r byd i gyd o flaen Cari. Mae hi'n 16 oed ac yn dyheu am ei rhyddid. I Elen mae hynny'n destun pryder. Mae Cari'n wahanol i'w ffrindiau a greddf ei mam yw ei gwarchod. Ond wrth i'w merch ddiniwed ddatblygu'n ddynes ifanc rhaid i Elen ddysgu dygymod â gollwng gafael ar ei merch wrth iddi gamu i'w bywyd newydd fel oedolyn.Mae'r stori'n cydio o'r bennod gyntaf drawiadol, gan adeiladu'n raddol at uchafbwynt dramatig... Dyma nofel dyner, brydferth am y cwlwm rhwng mam a merch, ac am dderbyn pobl fel maen nhw. - Menna Baines
Mae'n nofel ingol ar un ystyr, ac yn un sy'n dawel ddyrchafol hefyd, yn llawn o synwyrusrwydd a gobaith. - Lleucu Roberts
Daw brawddeg ar ôl brawddeg i fachu a glynu. - Ion Thomas