Winner of the Daniel Owen Memorial prize 2023. Sergeant Idwal Davies is the first to reach Tan-y-graig on a Sunday morning at the turn of the millennium.A highly readable novel that queries many aspects of life and the deterioration of Welsh society.
Rhywsut, cefais fy atgoffa o Martha, Jac a Sianco wrth ddarllen y nofel hon. Mae’n bosibl mai’r portread llwm, realistig o gymunedau cefn gwlad Cymru oedd yn gyfrifol am hyn, neu efallai’r disgrifiadau o’r cymeriadau amlochrog a’u bywydau cymhleth, trasig. Yn wir, gallai stori Gwynt y Dwyrain ddigwydd yn yr un byd a nofelau Carol Lewis. Yn eironig, er mai nofel dditectif ‘noir’ yw hon, nid yr elfen hon oedd cryfder y nofel i mi. Ni wnaeth y plot afael ynof - ni wn yn union pam. Cryfder y nofel i mi oedd y ffordd mae’n dangos - weithiau’n gynnil, weithiau’n amlwg - pa mor arwynebol yw ‘parchusrwydd’ y dosbarth canol Cymraeg. Dyma thema sy’n aros yn y cof yn hir ar ôl gorffen y gyfrol.