Description: Stori Muriel sydd yma, a'i thaith arwrol i geisio cael gwellhad i'w gŵr, Ken. Maen nhw'n bâr priod yn eu pedwardegau pan gaiff Ken wybod ei fod yn marw o ganser. Ond dechrau'r daith yw'r Muriel ifanc, tair ar ddeg oed, pan ddaw hi o hyd i'r llyfr hynafol, Llyfr Corynnod y Mwmbwls… Bydd y nofel hon yn mynd â chi ar daith anturus wrth i Muriel geisio dod o hyd i atebion. Ond mae rhaid iddi wynebu ei phryderon a'i hofnau mwyaf yn gyntaf, ac i wneud hynny, mae'n rhaid iddi dorri'n rhydd oddi wrth y gweoedd hynny sy'n ei chlymu'n saff.
Dydw i methu diodde’ corynod! Mae gen innau arachnophobia yn ogystal â Muriel druan ac wrth gwrs mi ges i ias lawr fy nghefn sawl gwaith wrth ddarllen amdanynt yn y llyfr yma. Ta waeth, dydw i ddim am farcio llyfr i lawr am hynny’n unig. Roedd y penodau’n gryno ac yn hwyliog ond imi roedd y plot yn anghyffredin braidd. Roeddwn i’n gwerthfawrogi pwyslais y stori ar serch, i fyw yn wahanol i eraill, a chreulondeb salwch a’r effaith mae’n cael ar bawb eraill.