A unique autobiography by a young author that leads us on a revealing, personal journey. Malachy Edwards faces his mixed-race, multi-cultural and religious identity while tracing his family history in Ireland and Barbados. With the background of our recent history, including Brexit and Covid-19, he writes honestly about life's great experiences such as the birth of his children.
Dwi wedi darllen fy siâr o hunangofiannau di-bwrpas dros y blynyddoedd, felly braf iawn oedd cael hunangofiant oedd â phwrpas, ac mae ffrwyth hynny’n gyfraniad gwerthfawr i’n dealltwriaeth o hunaniaeth yng Nghymru. Mi wnes i fwynhau cael mewnwelediad i fywyd a safbwynt yr awdur, a rhwydd iawn oedd llif yr ysgrifennu. Mae’r iaith yn safonol a gobeithio fod hynny’n galluogi cynulleidfa eang, er gan amlaf ei bod hi’n well gen i ieithwedd fwy dafodieithol wrth ddarllen y math yma o beth.
Cyfrol sy’n portreadu hunaniaeth fel proses, a hynny drwy brofiad a pherthnasoedd.