Yn dilyn anturiaethau 'Dal y Mellt' mae her newydd yn wynebu Carbo, Antonia, Mici, Les a'r criw.
Drylliwyd unrhyw obaith am fywyd normal ers cipio'r mellt a chlywed am ddiflaniad Jiffy, cariad Dafydd Aldo. Gan amau iddo ei heglu hi gyda'r pres o werthu'r deimonds, daw'r criw i sylweddoli eu bod mewn ogof o dwll, wrth glywed fod yr Hustons ar eu gwarthau...