Jump to ratings and reviews
Rate this book

Porth

Rate this book
Casgliad o storïau dinesig a ddaeth yn agos iawn at y brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ydi Porth gan Luned Aaron. Ymysg y gwead celfydd o straeon, ceir profiadau ymgeisydd lloches ifanc feichiog, gwraig sy’n stryffaglio gyda heriau’r cyfryngau cymdeithasol, dyn sy’n troi at steilydd ffasiwn mewn ymgais i newid ei fywyd, a mam brysur sydd mewn penbleth wrth iddi geisio dewis lliw ei drws ffrynt. Dyma straeon sy’n cyfuno elfennau treiddgar ac ysgafn ac sy’n rhoi cipolwg ar fywydau amrywiol yn y Gymru gyfoes.

87 pages, Kindle Edition

Published December 12, 2023

Loading...
Loading...

About the author

Luned Aaron

19 books

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
9 (40%)
4 stars
9 (40%)
3 stars
3 (13%)
2 stars
0 (0%)
1 star
1 (4%)
Displaying 1 - 2 of 2 reviews
Profile Image for Carys Richards.
5 reviews2 followers
August 18, 2026
Waw. Roedd darllen y gyfrol hon yn hyfryd, wnes i wirioneddol ei fwynhau. Ro'n i'n teimlo'n agos gyda'r cymeriadau ac wedi fy swyno gan eu straeon a'u profiadau onest a trawiadol. Mae'r straeon yn gynnil ac yn llyfn yn gwehyddu gyda llwybrau yn croesi ac yn cynnig mewnwelediadau o bersbectifau gwahanol - mae'n andros o glyfar.
Mae steil Luned Aaron o ysgrifennu yn sensitif ac yn brydferth, mae hi'n amlwg wedi cymryd gofal wrth dod a'r cymeriadau yma'n fyw.
476 reviews4 followers
February 23, 2024
Llyfr hardd, sensitif. Mae pob darsylliad yn dangos i ni realiti bywyd heddiw. Mae pobl bregus, tlawd, unigol sy'n byw ochr yn ochr â rhai sy'n wtresgar, neu'n brwydro gyda phroblemau cudd. Yng nghanol y straeon rydyn ni'n cwrdd â dyn sy'n eistedd yn dawel gyda'i fam sy'n agos at marwolaeth.

Llyfr bendigedig sy'n myfyrio ar fywyd cyfoes mewn ffordd tawel a deallus.
Displaying 1 - 2 of 2 reviews