"Darllenais drwy fy mysedd. O'n i'n methu rhoi hi lawr. Nofel sy'n llawn tensiwn, dirgelwch a chymeriadau gwirioneddol ddychrynllyd. Campwaith!" - Manon Steffan Ros
"Nofel sy'n barthu fel cyllell ar gnawd" - Alun Davies
Mae'r Ditectif Sally Morris a'i phartner gwaith, Tej Williams, ar drywydd lladron cwn. Tra bod y ditectifs yn cwrso'u cynffonnau, mae Hels, gyrrwr tacsi lleol, yn ceisio plesio pawb. Ond, yn ddiarwybod i'r ddwy, mae bwystfil yn llech-hela strydoedd y dref, yn gloddesta ar gysgodion. Gyda Dydd y Farn yn agosáu, does dim dianc rhag ei grafangau. Someone is stealing dogs in Gerddi Hwyan and Detective Sally Morris and her partner, Tej Williams, are in pursuit. But while the detectives chase their tails, Hels, a local taxi driver, is trying to please everyone. Unbeknown to the two women, there is a beast lurking in the streets. With the Day of Reckoning close by, there will be no escaping his deadly claws.
"Darllenais drwy fy mysedd. O'n i'n methu rhoi hi lawr. Nofel sy'n llawn tensiwn, dirgelwch a chymeriadau gwirioneddol ddychrynllyd. Campwaith!" - Manon Steffan Ros
Dyma ni yn ôl yn Ngerddi Hwyan unwaith yn rhagor. Mae’r nofel yn dechrau gyda cheisio datrys pwy sydd yn dwyn cŵn lleol, ac i ble maent yn mynd. Yn fuan iawn daw elfen llawer mwy erchyll i’n sylw… pwy ydi’r dyn barfog sy’n pigo ei drwyn, ac sydd newydd ei rhyddhau o’r carchar. Un peth sydd ar ei feddwl…. Dial!
Darllenwch hi i weld pwy sydd mewn perygl a pham!!