"Gwibdaith liwgar yng nghwmni cymeriadau hoffus ac ambell arch-arwr sy'n datrys mwy nag un dirgelwch ar y daith." Catrin Mara
Ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 32 mlwydd oed mae Martha yn cael anrheg arbennig iawn gan ei rhieni. Mae'r newyddion yn ei gyrru hi ar daith fydd yn newid ei bywyd am byth. Nofel gyfoes, yn llawn troeon a hiwmor tywyll. Er ei bod yn ysgrifennu a golygu dramâu ers dros ugain mlynedd dyma nofel gyntaf Ffion Emlyn sy'n gynhyrchydd gyda'r BBC.
On her 32nd birthday, Martha receives a unexpected present from her parents. The news marks the beginning of a journey that will change her life. A contemporary novel full of twists and dark humour. BBC Produrcer Ffion Emlyn has been writing and editing drama for twenty years. This is her first novel.
Stori anghredadwy i fi, am ferch a'i rhieni, sy'n dweud iddi hi ar ei 32.ain penblwydd ei bod ei thad ddim ei thad biolegol, a dydyn nhw ddim yn gwybod pwy o'r 5 dyn sy'n perthynas iddi hi. Mae'r llyfr yn dilyn y ferch a'i siwrne er mwyn cwrdd a'r dynion, ond heb gynllun beth mae hi eisiau gwneud nes ymlaen. Ond, mae'r pethau'n mynd yn od, mae'r car wedi diflannu, ac mae rhywun yn eu dilyn nhw. Mae'r llyfr yn neidio o gwmpas ychydyg rhwng y gorffennol ac 'nawr', pryd mae hi'n esbodio i'r heddlu bo hi wedi lladd rhywun, ond dydyn nhw ddim yn gallu dod o hyd i'r corff. Llyfr neis o ran yr iaith, roedd yn ddigon hawdd i fi ei ddarllen ar ol rhyw amser heb y Gymraeg.
Nofel sy’n llawn cyffro o’r dechrau i’r diwedd wrth i ni ddilyn Martha ar drywydd datrys dirgelwch rhyfedd. Mae’r cymeriadau yn gymysgedd od sydd rhywsut yn gweithio! Hiwmor tywyll ar adegau ond yn fyrlymus hefyd. Darllenwch, ac ewch ar y daith anhygoel gyda Martha!!!
Chwip o lyfr! Hawdd i’w ddarllen ac er cyddestun melodramatig, mae’r ansicrwydd a’r siwrne mae’r cymeriadau yn mynd drwyddi yn cael ei ysgrifennu o le real iawn. Wnes i ei fwynhau o glawr i glawr ac buaswn yn argymell i unrhyw un, enwedig rhai sydd efallai awydd ail afael ar darllen yn y Gymraeg.