Wedi mwynhau’r llyfr yma a chael dod i adnabod y cymeriadau diddorol. Teimlaf fod y llyfr wedi dod i ben braidd yn rhy sydyn. Buasai wedi bod yn gret cael rhyw ‘Epilogue’ i ddiweddaru’r stori - Selwyn yn ymddiheuro i Bethan am ei ymddygiad ofnadwy tuag ati neu hyd yn oed yn cael ei ddi-swyddo am ‘gross misconduct’ am ei antics fyny’r grisiau yn y swyddfa!!! Buasai wedi bod yn gret cal darllen am ‘downfall’ Sid Jenkins hefyd wrth i bawb ddod i wybod am ei ‘dodgy dealings’. Ond ar y cyfan, stori dda 👍🏻
This entire review has been hidden because of spoilers.
Nofel swmpus yn llawn dirgelwch. Bethan yn newyddiadurwraig gyda thrwyn am stori ond yn cael ei llyffeitheirio gan ei rheolwr dro ar ol tro, ond yn benderfynol o helpu pobl Abertaf. Cynghorwyr doji, a chymeriadau lliwgar y gweithwyr rhyw yn britho’r stori. Ar yr un pryd mae hi wedi mopio efo Declan, sy’n rhedeg tafarn Y Cei. Ond pwy ydi o mewn gwirionedd a phan ran sydd ganddo ef yn y stori. Darllenwch, chewch chi mo’ch siomi.