Jump to ratings and reviews
Rate this book

V + Fo

Rate this book

350 pages, Paperback

Published November 4, 2024

5 people are currently reading
48 people want to read

About the author

Gwenno Gwilym

3 books1 follower

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
62 (53%)
4 stars
46 (39%)
3 stars
6 (5%)
2 stars
2 (1%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 16 of 16 reviews
Profile Image for Mirain Llwyd.
11 reviews2 followers
March 4, 2025
4.5/5!

Haeddu gwell na 4⭐️.

Neshi fwynhau hon yn fawr iawn - hawdd i’w darllen a finna’n rhwsytredig lot o’r llyfr efo be oni isio i ddigwydd ac yn falch o gal y diweddglo oni’n obeithio! Edrych mlaen at bebynnag ddaw nesa gan Gwenno Gwilym!
Profile Image for Lyn.
82 reviews4 followers
February 25, 2025
Chwip o nofel! Nes i wir fwynhau darllen am V a Rob yn ymdopi a newidiadau yn eu bywydau ar ôl iddynt briodi, setlo i lawr a magu plant. Roedd eu sefyllfa mor real, mor aeddfed, roedd hi’n anodd rhoi’r llyfr i lawr ar sawl adeg. Hoff iawn o ddull naratif y stori, sef clywed y ddwy ochr o’r prif gymeriadau yn eu hiaith a bratiaith naturiol. Gymaint o glod i Gwenno Gwilym am ddefnyddio Wenglish, fasa’r nofel yma yn ddelfrydol i ddarllenwyr sy’n pendroni darllen llyfrau Cymraeg ond dim efo’r hyder.

4.5/5 -Da iawn Gwenno, edrych ‘mlaen i ddarllen fwy o’i llyfrau.
6 reviews
February 27, 2025
Chwa o awyr iach yn Gymraeg (a Saesneg!) - nofel fodern hollol wych sy'n teimlo'n hollol naturiol yn y ffordd ma'r iaith yn newid rhwng y ddwy iaith. Cymeriadau mor dda. O'n i ddim yn gallu ei rhoi hi lawr. Wow. Edrych ymlaen at fwy gan Gwenno Gwilym.
382 reviews
April 14, 2025
Mae V a Rob wedi gwahanu ac yn chael hi’n anodd i ddygymod a hynny. Rhaid darllen dipyn cyn cael eglurhad am y gwahanu, a hefyd i sylweddoli fod y berthynas wedi dirywio ers tro. Mae’r ddau yn gwneud eu gorau i gyd-rianta(?) eu merched.
Rydym yn dilyn taith V i ail-ddarganfod ei hun a’i hyder o dipyn i beth.

Mae’r nofel yn frith o gymryd cyffuriau a meddwi, sydd yn ymddangos yn ormodol ar adegau gan eu bod yn oedolion cyfrifol i fod sydd yn ceisio sicrhau fod eu plant yn bwyta’n iach a hwythau yn cymryd cyffuriau.

Mae V yn dod i ddeall hefyd nad ydi ceisio cael perthynas efo hen ffrind, sef Si yn beth call chwaith.

I fod yn onest allwn i ddim cydymdeimlo a run o’r cymeriadau ar y cychwyn, ond yn sydyn roeddwn am wybod eu tynged a’u deall yn well.

Darllenwch a mwynhewch. Angen mwy o ffresni fel hyn.
Profile Image for Rebecca Roberts.
Author 11 books19 followers
February 18, 2025
Does yna fawr dim o blot yn y nofel hon - criw o bobl yn eu 30au hwyr/40au yn ymdopi â newidiadau mawr yn eu perthnasau. Eto, mae'n chwip o stori oherwydd mae'r cymeriadu mor gryf mae wir yn teimlo fel petai chi'n sownd ym mhen Rob a V ac yn gwrando arnyn nhw'n siarad. Mae'r cymeriadau i gyd yn teimlo fel pobl go iawn, gyda gwendidau a chryfderau a chyfrinachau caent eu datguddio'n raddol drwy'r nofel. Eto, does dim tro mawr yn y stori, dim datgeliadau neu sylweddoliadau dramatig - ac mae'r diweddglo'n boenus o 'real' ac yn gweddu i'r cymeriadau'n berffaith. Mae'r cyfan yn flêr ac yn gymhleth, yn union fel mae bywyd go iawn yn gallu bod.
Mae Gwenno Gwilym wedi mynd ar fy rhestr o awduron bydda i'n prynu'r llyfr nesaf yn ddi-oed.
Profile Image for Gethin Roberts.
35 reviews1 follower
August 9, 2025
Nes wir mwyhau’r llyfr yma, dwi ‘im yn un i darllen nofelau Cymraeg. Ond odd feel y llyfr yma jest yn wahanol!

Ma’r defnydd o V a byd V yn y Gymraeg a fo Rob ddim yn siarad yr Iaith, neu oleuaf ddim yn rhugl yn rhoi elfen lysh o be yw e byw yn Cymru modern. Yn dwi ieithog.

O rhan stori, it’s Briget Jones if Bridget Jones was likeable and interesting and not fucking boring. Dwi’m yn un am romance, os dyna yw’r wir genre llyfr yma. Ond odd da llyfr yma rhywbeth bach wahanol nath dal fi trw’r holl llyfr.

Yr unig flaw dwi dwi’n gallu meddwl am yw fod y diweddglo twtch yn gyflym. But love love love.

Ma gennai ciw o pobol dwi ishe rhannu llyfr yma efo.

Hefyd nes i darllen hwn ar y Tube a gweld rhywun odd yn darllen dros’n ysgwydd a’r llyfr yn troi o gymraeg I seasneg yn hilarous.
35 reviews
January 30, 2025
Nofel ddarllenadwy er i mi feddwl y byddai neidio nol ac ymlaen rhwng y ddau lais a'r ddwy iaith ddim yn denu, roedd yn gweithio! Naturioldeb y dweud a'r iaith lafar, liwgar yn creu cymeriadau ro'n i am fod yn eu cwmni.
Er i'r nofel ddechrau teimlo fymryn yn hir mewn ambell bennod tuag at y diwedd - eto, dyna realiti a does dim datrysiad hawdd, fe gym amser. Nofel dda i'r rhai sy'n ceisio magu hyder i ddychwelyd at ddarllen nofelau Cymraeg.
Profile Image for Melanie Owen.
33 reviews
January 31, 2025
Pleser i’w ddarllen gan bod hi’n hawdd i garu’r cymeriadau. Ro’n i’n hooked! Er iddi neud i fi deimlo hollol uncool gyda’r holl sôn am bobl yn eu tridegau’n neud cyffuriau a fi fynna’n darllen y llyfr gyda panad yn gwely!
43 reviews
June 28, 2025
Nofel hawdd iawn i ddarllen, gyda pob pennod yn gwneud hi’n anodd i roi lawr.
Roedd y cymeriadu yn arbennig, gyda pob un hefo cryfderau a gwendidau amlwg ac ymatebion real a gonest rhan fwyaf o’r amser.
Profile Image for Maddie Taylor.
4 reviews
September 4, 2025
I've been wanting to try more Welsh reading for the last couple of years (having not read in Welsh since gcse) and this book made that not only possible, but really enjoyable.

Devoured in less than a week with a storyline that kept me gripped in both languages.

Amazing!
Profile Image for Roger Williams.
11 reviews
February 19, 2025
Mae gan y llyfr hwn ysbryd ac egni hyfryd. Mae’r cymeriadau’n dod yn fyw. Doniol, dynol. Ychydig rhy hir efallai ond gwerth ei brynu
Profile Image for beyond_blue_reads.
242 reviews3 followers
June 1, 2025
4.5. Nes i ffeindio fe'n hawdd i ymgolli fy hun yng nghymlethdodau bywyd a theulu V. Mae'r ddwyieithrwydd yn naturiol, ac yn gweithio'n dda i mrên i.
Displaying 1 - 16 of 16 reviews

Can't find what you're looking for?

Get help and learn more about the design.