Jump to ratings and reviews
Rate this book

Diwedd y Gân

Rate this book
Mae Sophie a gweddill band Konquest yn dal i chwilio am lwyddiant ac enwogrwydd, ond tydi'r llwybr ddim yn un esmwyth. Pan gaiff y band gynnig cytundeb recordio ar yr amod fod Sophie yn gadael fel prif leisydd, mae gan y criw benderfyniad anodd i'w wneud. Dilyniant i Curiad Gwag.

200 pages, Paperback

Published March 1, 2025

2 people want to read

About the author

Rebecca Roberts

11 books20 followers
Ers iddi fod yn ferch fach roedd Rebecca wrth ei bodd yn dweud straeon, ac o fod yn ifanc iawn gwyddai mai ysgrifennu nofelau oedd hi am wneud. Ers graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae Rebecca wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd. Mae hi'n byw Mhrestatyn, gyda’i gŵr a phlant. Enillodd #Helynt, ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Wobr Tir na n-Og 2021 a Llyfr y Flwyddyn Plant a Phobl Ifanc 2021.


​From a very young age Rebecca knew that she wanted to be a novelist. Since graduating from Bangor University with a BA(hons) in English and Creative Writing Rebecca has worked as a teacher, Welsh development officer, humanist celebrant and translator. She lives in Prestatyn, with her husband and children. Her first YA novel, #Helynt, won a 2021 Tir na n-Og Award and the 2021 Book of the Year (Children and Young People Category).

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
3 (50%)
4 stars
2 (33%)
3 stars
1 (16%)
2 stars
0 (0%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 3 of 3 reviews
Profile Image for Judith.
1,055 reviews5 followers
March 2, 2025
O'n i'n edrych ymlaen at groesawi Sophie a Konquest yn ol i'm mywyd ar ol eu dilyn yn 'Curiad Gwag', a gweld ble nesaf iddynt yn eu bywydau personol a'r byd heavy metal (metal trwm?). Unwaith eto, mae Rebecca Roberts wedi llwyddo i sgwennu stori sy'n cydio yn y darllenwr o'r pennod gyntaf ac yn eu rhoi ar y rollercoaster roc (hawlfraint fi, diolch) 'ma. Naeth y nofel wneud i mi wennu, chwerthin, gwylltio, a disgyn mewn cariad efo'r dyn efo'r barf (no spoilers!) Shout out i Mariella hefyd, a ddaeth yn un o fy hoff gymeriadau o'r nofel yma.

Mae'r awdur bob tro yn rhoi twist annisgwyl yn eu nofelau, a (eto, no spoilers!) nes i ddim dyfalu pwy oedd y dihiryn tro 'ma. O'n i'n teimlo fel fy mod wrth ochr Sophie bob cam o'i siwrne yn 'Diwedd y Gan', ac unwaith eto, mae o mor braf gael darllen nofel amdan y scene heavy metal sydd yn berthnasol, gwreiddiol a doniol mewn rhai darnau.

(This is a review of the sequel to 'Curiad Gwag' ('Rock on the Road' is the English version, which is highly recommended; there's not an English verison of 'Diwedd y Gan' yet). It's a great read - relevant, original, readable and funny in places. A must-read for heavy metal fans, and a rare read in that it's actually about a heavy metal band!)
397 reviews
March 14, 2025
Wrth fy modd cael camu i fyd Sophie unwaith yn rhagor, er nad oes gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth roc trwm. Er hynny mae’r nofel yma yn gafael o’r cychwyn cyntaf a chawn ddilyn siwrne Sophie wrth iddi ddygymod a beirniadaeth gas sydd yn siglo ei hyder unwaith eto fel ei bod yn penderfynu peidio canu gyda Konquest. Ond daw tro ar fyd pan gaiff hi gefnogaeth gan ei hoff fand, ond tydi hyn ddim yn fel i gyd. Mae rhywun sy’n agos ati yn ceisio chwalu ei breuddwyd drwy fod yn faleisus iawn.

Dwi ddim am ddatgelu mwy ond mae hon yn nofel afaelgar a phwerus ar sawl lefel. Darllenwch chi i gael gweld. Mae hi wedi bod yn bleser mwynhau taith Sophie.
Profile Image for Sam Brown.
28 reviews1 follower
July 8, 2025
Am lyfr! Rôn i'n caru Curiad Coll a mor hapus i allu dychwelyd i'r byd roc a rôl Cymraeg! Mae Rebecca wedi llwyddo unwaith eto i ddal fy sylw efo pob un gair, gan greu awyrgylch a chymeriadau credadwy a charadwy (er bod angen casau rhai ar adegau) a stori afaelgar fuasai'n apelio at ddant pawb, mae'n siŵr.
Displaying 1 - 3 of 3 reviews