Nofel anhygoel! Dwfn, llawn emosiwn, ambell waith yn fy atgoffa i o lyfrau Kate Roberts. Stori am efeilliaid Wil a Gwen a’u hanes yn tyfu i fyny o fewn cefndir gwledig mewn tŷ hen ar wahân. Bywyd eitha’ syml ond tywyll ar rhai adegau.
Roedd yr ysgrifennu mor hardd a sinematig, hawdd darllen ac anodd i’r rhoi i lawr. Rhai penodau brwnt a rhai eraill byddwn yn teimlo’n dorcalonnus dros y cymeriadau. Fe wnâi byth anghofio stori Nelan druan.
Rhoddaf 5/5 i hwn. Wir wedi mwynhau!