Stori sy’n carlamu o’r dechrau un, a hynny i sawl cyfeiriad. Mae yna sawl aderyn brith ynghlwm a’i gilydd sydd yn cymhlethu pethau a deud y lleiaf. Ond na phoener mai Kiely ac O’Shea yna i ddatrys y cwbl…. Yn y diwedd. Cymeriadau gafaelgar i gyd, o Ro druan yn cael ei rhyddhau o’r carchar i’r tri dihyryn! Ond pwy sydd yn gyfrifol am lofruddio? Darllenwch i gael yr atebion i gyd.