Nofel i ddysgwyr Cymraeg Lefel Uwch gan Mared Lewis, sy'n diwtor Cymraeg i oedolion. Mae Rob a'i ddau blentyn yn symud i fyw i dŷ ei fodryb, ac yn dechrau bywyd newydd fel tad sengl. Ond ydy hi'n hawdd cynnau tân ar hen aelwyd? Nofel lawn hiwmor, sy'n ymdrin â nifer o themâu cyfoes.
Llyfr hyfryd iawn am deulu sy'n symud nôl i ardal plentyndod tad, ar ôl ysgariad, efo ei ddau blentyn. Mae'n rhaid iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol newydd, dod i adnabod y pobl lleol, a gweld ei gyn-cariad eto, a oedd yn meddwl y byddant treulio eu bywydau gyda'i gilydd. Ond, mae'n anodd cael merch yn ei harddegau fel tad, a dyw hi ddim yn siarad cymaint am ei bywyd neu sut mae pethau'n mynd yn yr ysgol, ffrindiau ayyb. Tan mae rhywbeth yn mynd o'i le. Ond, diwedd hapus! Mae'n hawdd i ddarllen /wrando, geirfa gyffredin iawn sy'n dweud y stori'n berffaith.