Wir wedi mwynhau’r llyfr. I fi, rhywun sydd byth yn gwrando ar jazz, mae’r llyfr wedi gwneud i mi isho wrando ar y ganeuon sy’n cael eu sôn am. Mae’r rhan cyntaf a’r ail yn ardderchog. Dwi wedi mwynhau darllen am yr Asphalt Hustlers a mae’r awdur yn wych am ddisgrifio naws y band a’i aelodau, ond hefyd yn dda am allu sôn am y trafferthion sy’n bresenol yn yr Almaen a’r UDA. Mae rhan pedwar a’r diweddglo yn emosiynol iawn. Nid oeddwn yn ffan enfawr ar ddiwedd yr ail rhan. Ar y pryd, roeddwn i’n meddwl bod diweddglo y cymeriadau yn sydyn iawn a doedd na’m llawer o esboniad, ond nawr yn meddwl bod hyn yn fwriadol er mwyn ceisio porteu sut deimlad oedd colli pobl sy’n agos iawn i chi, gyda dim esboniad i be sydd wedi diwgydd i nhw.
This entire review has been hidden because of spoilers.
Nofel hanesyddol wedi ei lleoli gan fwyaf yn yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd. Dilynwn hanes band jazz arloesol gyda’r aelodau o sawl hil. Neifion yw eu noddwr hael, a rhywsut mae Cymro ifanc o Flaenau Ffestiniog sy’n bianydd dawnus yn ymuno a’r grŵp ac yn syrthio mewn cariad ac Emmi. O’u cwmpas mae arwyddion yr erchyllterau a ddaw cyn y Rhyfel yn cyniwair a bellach mae bywydau pawb o’r band yn y fantol. A beth am Lutz y Nazi sydd yn deisyfu Emmi?