Jump to ratings and reviews
Rate this book

Anfarwol : Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2025

Rate this book
Mae bywyd yr actor Theophilus Cibber ar chwâl. Mae'n destun sbort i gynulleidfaoedd theatr Llundain ac mae ei deulu a'i ffrindiau wedi troi eu cefnau arno.

Y cyfan mae Mr Cibber yn chwilio amdano yw enwogrwydd.

Mae un cyfle ar ôl. Un siawns i sicrhau anfarwoldeb. Felly yn 1758 mae Theophilus yn dal y cwch i Iwerddon.

Ond fydd ei fywyd byth yr un fath eto...

257 pages, Kindle Edition

Published August 10, 2025

5 people are currently reading
16 people want to read

About the author

Peredur Glyn

5 books4 followers

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
7 (21%)
4 stars
18 (54%)
3 stars
6 (18%)
2 stars
2 (6%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 5 of 5 reviews
390 reviews
August 13, 2025
Nofel hanesyddol ffantasiol sydd yn ymlwybro yn araf ar adegau ac yna yn neidio ymlaen yn garlamus, yn enwedig tua’r diwedd. Mae’n debyg fy mod yn cydymdeimlo â Theophilus druan, ond allai ddim dweud fy mod yn ei hoffi. Cawn gwrdd â Iolo Morgannwg sydd rhywsut ynghlwm yn yr holl dirgelwch am Mathonwy (wnai ddim datgelu mwy am hwnnw yma).

Nid y math o nofel yr wyf yn arfer ei darllen, ac er fy mod yn ei chael yn llafurus ar adegau, roedd yn anodd i’w rhoi i lawr nes cyrraedd y diwedd. Falch fy mod wedi ei darllen a’i mwynhau.
22 reviews
Read
August 14, 2025
Nofel hanesyddol ddychmygus ddifyr dyfeisgar a rhwydd ei darllen. Peth seiliau a chymeriadu hanesyddol fel cyfeiriadau at Lundain a Chaergybi yn y dyddiau a fu heb sôn am yr athrylith celwyddog Iolo Morgannwg. Ni fyddaf byth eto yn mynd i Fro Morgannwg heb ddychmygu fod tiriogaeth Abred ger llaw ac efallai Theophilus Cibber yn dal i droedio llwyfannau hanes! Amlwg bod yr awdur wedi gwneud gwaith cefndirol manwl i rai elfennau. Diwedd y nofel yn annisgwyl ac arallfydol

Excellent read. A history based fantasy full of twists and turns.
Profile Image for Lyn.
85 reviews4 followers
October 3, 2025
Waw! Dyna chi chwip o nofel!

Fel arfer dwi’n cario ‘mlaen edrych ar ba dudalen dwi ar, faint o dudalennau sydd gen i ar ôl ond ni edrychais unwaith tra darllen y llyfr hwn! Ymgollais fy hun yn stori’r actor Theophilus Cibber ers y dudalen gyntaf!

Dwi wedi darllen Pumed Gainc y Mabinogi gan Peredur Glyn llynedd ac roeddwn wir wedi gwirioni gyda’r steil y storïau… mytholeg wedi croesi â ffuglen wyddoniaeth a dilynodd Anfarwol yr un trywydd ond ar lefel llawer mwy epig!

Tynnu un seren oherwydd mi roedd hi’n hirwyntog a llafurus ar rhai adegau ond ar y cyfan ni chefais fy siomi! Benthycais fy nghopi o’r llyfrgell ond dwi rwan yn ysu cael copi fy hunain.
38 reviews
October 7, 2025
Wedi rhoi 4 seren, am y rheswn syml bod y diwedd yn wych. Fues i yn llafurio braidd ar adegau, a methu deall i ble oedd y stori yn mynd. Ond roedd o yn werth y llafur i weld sut ddaeth popeth at ei gilydd yn y diweddglo. Hoffi diwedd boddhaol, a ges fy modloni.
Displaying 1 - 5 of 5 reviews

Can't find what you're looking for?

Get help and learn more about the design.