Cyffuriau, blacmel, rhyw, cariad, malais, dial, dau deulu'n cydblethu, perthnasau'n chwalu, marwolaeth... Rhian Preis (athrawes): "Does ganddi hi ddim clem sut i drin dyn. Na sut i drin dosbarth, chwaith!" Dyl Bach, Blwyddyn "Titshyrs yn crap. Wel, heblaw am y boi Welsh. Mae o'n oce." Griff "Fedra i ddim diodda dod yma bob dydd, ei weld o, gweithio hefo fo - nid a finna'n teimlo fel ydw i tuag ato fo." "Byddai'r heddlu'n deall, yn enwedig pan fasen nhw'n gweld y llun..." "Llygad Seiclops o leuad yn grwn yn nhalcen y byd. Fedrwn i ddim dianc rhagddi..." Cawn dreiddio i feddwl cymeriadau cryf a chredadwy yn y nofel hon, a phob un yn cuddio rhyw ddirgelwch a allai effeithio ar eraill. Does neb yn berffaith. Mae isio deryn glan i ganu. Mae adar glan yn bethau prin.