Dwy ffrind. Dwy ochr i'r un geiniog. Dwy'n troedio ar y dibyn. Mae Thelma'n g0-getter sy'n hapus efo'i bywyd nes iddi glywed bod Rob, ei chariad on ac off wedi dyweddïo. Mae ffrwydriad ym mywyd Magw hefyd pan mae Dyfed, ei gŵr, yn awgrymu shake up a phriodas agored. Mae'r newyddion yn gorfodi'r ddwy i wynebu gwirioneddau ro'n nhw wedu eu claddu. Nofel ffraeth ac onest am fod mewn perthynasau o bob math - y ffyddlon, y blêr, y secsi, yr anwadal a'r rhai sy'n wneud di mor hapus - gan awdur Sgen I'm Syniad.
Magw and Thelma are best friends who live and work in London. Their friendship is at the heart of this witty novel exploring the complexities of relationships, by the author of Sgen I'm Syniad (I Haven't a Clue)
Llyfr ‘heartwarming’ am ffrindiau a perthnasau! Gorffen o mewn mater o ddyddiau! Joio dod i nabod a dysgu mwy am fywydau Magw a Thelma a sut maent yn dygymod gyda materion gwahanol yn eu bywydau. Ffab🩷
Wow — oni di gwirioni hefo’r llyfr yma! Wnes i ei orffen mewn ychydig o ddyddiau achos oedd e’n amhosib ei roi lawr. O’n i’n teimlo fel o’n i yna efo Magw a Thelma — chwerthin hefo’r ddwy, cael fy nghalon wedi torri hefo nhw… a’n gutted pa mor ddrwg wnaeth y ffrae daro.
A’r diwedd? Jus spot on. Wedi gadael fi isio mwy!
Wow — I was completely hooked on this book! I finished it in just a couple of days because it was impossible to put down. I felt like I was right there with Magw and Thelma — laughing with them, having my heart broken with them… and absolutely gutted when the fallout happened.
And the ending? Just spot on. Left me wanting even more!
Neshi ddarllan hwn mor sydyn a joio dod i nabod y cymeriada gymaint. Ma sgwennu Gwen yn ffraeth ac emosiynol, a dwi’n caru’i ffordd o sgwennu. Darllenwch ooooooo