Stori dditectif wych unwaith yn rhagor. Jeff Evans ar ei orau, gyda sawl digwyddiad yn cordeddu i’w gilydd yn feistrolgar.
Bellach rydym ynghlwm ym mywyd y Ditectif Jeff Evans, ei deulu a’i gyd-swyddogion. Plant ysgol yn fêpio, llofruddiaeth ciaidd a trais domestig eithafol yn creu stori ddarllenadwy a dyfeisgar dros ben. John Alwyn yn feistr ar ei grefft yma. Darllenwch hon rwan, ac ni chewch eich siomi.