Dyma nofel mewn tair rhan, am ddau ffrind ym Mhen Llŷn dros gyfnod o ugain mlynedd. Mae'n stori am gyfeillgarwch yng nghysgod galar, am geisio canfod cartref, ac am y gwahanol ffyrdd rydyn ni'n caniatáu i ni'n hunain adael cariad i mewn, neu beidio.
This story begins on a road.
This is a novel in three parts, which tells the friendship between two boys in Pen Llŷn over twenty years. It's the story of friendship in the shadow of grief, about trying to find a home, and the different ways that we allow ourselves to let love in, or not.
Rili wedi joio dod i nabod Adam a Dewi drwy’r stori yma - sut mae’r ddau yn tyfu fyny ac yn delio hefo galar, eu rhywioldeb, ffrindia’ a perthnasoedd. Llyfr ‘heartwarming’ neshi ffeindio’n anodd rhoi lawr am mod i’n ysu i weld be odd i ddod nesa!
Ma’r llyfr ‘ma di hitio fi fel bws. Gwenu, chwerthin, crio. Newydd ddechra darllen llyfrau Cymraeg eto, a dwi mor hapus bod yna lyfra fel hyn ar gael rwan. Wedi tyfu fyny yng Ngwynedd, yn hoyw a wedi colli Mam yn ifanc, dwi’n medru uniaethu â’r llyfr ar gymaint o lefelau. Edrych ‘mlaen i drafod yn y clwb darllen.
Methu rhoi’r llyfr yma i lawr - hwyr yn mynd i ‘ngwely am fod oni’n ysu eisiau gwybod beth oedd am ddigwydd nesa’!
Stori am fachgen ifanc yn colli ei rieni mewn damwain yrru ac yn gorfod symud i fyw efo’i fodryb ac ewythr (“tew!”) heb blant. Tra mae o a’i fodryb allan, mae o’n cael gwahoddiad gan ddynes garedig o’r enw Bethan i ddod i chwarae gyda’i mab hi sydd ru’n oed - a dyma le mae stori o gyfeillgarwch, cariad, hunaniaeth, ymdopi a thrasiedi yn dod i’r gorwel.
Nofel hyfryd - hoffi’r ffaith ni wingodd yr awdur rhag pynciau rhywiol a hoywaidd. Serch hynny, dwi heb ddarllen llawer o lyfrau Cymraeg sy’n mor onest a chrai ynglŷn â rhywioldeb - hen bryd i normaleiddio hyn, cariad yw cariad.
Cymeriadau cryf a hoffus - Bethan yn enwedig. Un o nofelau bythgofiadwy.
Llyfr teimladwy sy'n ymdrin â chymaint o bynciau y cafwyd ychydig o sôn amdanynt mewn llenyddiaeth Gymraeg hyd yn hyn. Gorchwyl arbennig gan Elgan a chyfraniad pwysig at y canon LDHTC+ Cymraeg. Melys moes mwy!