Jump to ratings and reviews

Fel yr Haul

Brennig Davies' first novel about love, desire, friendship, art, and the troubles of a young poet eager to live life to the max.

152 pages, Paperback

Published June 18, 2026

Loading...
Loading...

About the author

Brennig Davies

4 books3 followers

Ratings & Reviews

What do you think?

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
28 (59%)
4 stars
16 (34%)
3 stars
3 (6%)
2 stars
0 (0%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 10 of 10 reviews
Profile Image for Lois Hughes.
120 reviews8 followers
July 24, 2026
4.5🌟 “Dyw pawb ddim yn sbesial. Ond mae’n beth sbesial i fod o gwmpas gymaint o bobl sbesial, i gael golchi’n eu heulwen.”
Llyfr am gyfeillgarwch a pwysigrwydd byw bywyd i’r eithaf - tyda ni byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel, a ma’n lyfr sydd di gwneud i mi feddwl lot.
Joio sud mae o di gal ‘i sgwennu fyd. Ffab ffab ffab!
Profile Image for Lyn.
112 reviews3 followers
August 5, 2026
Llyncais y llyfr yma mewn diwrnod - methu rhoi fo i lawr!

Stori sy’n annog i fyw bywyd i’r eithaf, joio pob eiliad ac i wneud beth bynnag sy’n dod ag hapusrwydd i chi.

Diwedd annisgwyl, hoff iawn o ddarllen persbectif cymeriadau eraill, mor hawdd i’w ddarllen, stori sy’n symud yn rhwydd.

4.5/5
Profile Image for Rhodri ap Dyfrig .
27 reviews2 followers
August 15, 2026
Nes i chwerthin, nes i grio. Ro'n i isio mwy o'r byd ond hefyd wedi fy nigoni. On in poeni bydde'r cyfeirio Dafydd ap Gwilym yn drwm ond mae'n ysgafn fel awel haf. Weithiau ti'n darllen y llyfr iawn ar yr adeg iawn. Oedd hwn yn un o'r rheiny. Arbennig.
Profile Image for Geraint Roberts.
18 reviews
September 9, 2026
Ar ôl darllen y bennod gyntaf, meddyliais y buaswn i’n casau y nofel yma. Ond wrth gario mlaen, mae’r ddeialog yn llifo mor naturiol a rhyw harddwch i’r disgrifiadau, fel nad oeddwn i’n gallu ei roi lawr. Ardderchog!
Profile Image for Manon Gwynant.
3 reviews
July 28, 2026
cyffrous, cyfoes, clyfar - nofel hawdd ei darllen sy’n berthnasol mewn sawl ffordd. arbennig!
Profile Image for Rowan Llŷr.
2 reviews
August 27, 2026
Am stori arbennig. Un hynod o drawiadol bydd yn aros gyda mi am amser hir. Hoffwn i allu ei ddarllen am y tro gyntaf eto!
3 reviews
August 6, 2026
Llyfr trawiadol am ddiwedd ieuaint yw Fel yr Haul, dim ond byr ond llawn o ddynoliaeth a ffraethineb. Doeddwn i ddim yn darllen dan chwerthin, ond roedd llawer o bethau adnabyddadwy am y sefyllfaoedd yn y cyflyfr bach hwn. Fi ddarllenodd y llyfr gan feddwl am agosáu 30 oed! Oeddwn i'n yfed llawer a byw gyda ffrindiau ond dych chi ddim yn parhau byw fel myfiwr. Dehonglais i'r llyfr fel un am ddiwedd y cyfnod hwnnw, pan mae rhaid i ni leihau'r yfed a gwneud ymarfer corff. Mae "real life" yn bodoli a bydd rhaid i bawb tyfu lan yn y diwedd.
Mae Davies yn ysgrifennu mewn arddull naturiol ond dim nawddoglyd. Darllenais i heb chwilio am eiriau newydd, ond doedd y nofel ddim yn rhy syml, mae honno wedi osgoi'r garfagl o ail-dywys gormod.
Dw i'n argymell Fel yr Haul ac wedi mwynhau darllen e. Ar ôl y fuddugoliaeth ei llyfr cyntaf, dw i'n siŵr y bydd Davies yn ysgrifennu rhagor a bydda i'n edrych ymlaen at ei waith nesa.
Profile Image for SND.
2 reviews
August 4, 2026
Cariad, cyfeillgarwch, celfyddyd a chebabs – beth mwy sydd ei angen?

Nofel gyfoes, ffraeth ac annisgwyl am fardd ifanc o’r Fro sy’n byw bywyd i’r eithaf. Mae’n ddarlleniad hynod o hwyl, yn llawn hiwmor a bywiogrwydd, ond sydd hefyd yn cynnig gwir emosiwn a dyfnder. Roeddwn i wedi gwirioni ar y cymeriadau ac yn methu rhoi’r llyfr i lawr. Dyma un o’r llyfrau hynny sy’n aros yn y cof ymhell ar ôl troi’r dudalen olaf. Allwn i ddim ei argymell yn fwy.
Displaying 1 - 10 of 10 reviews