"Mae Caryl Lewis ar ei gorau yn y nofel rymus hon." - Manon Steffan Ros
"Un o'r nofelau gorau dwi wedi ei ddarllen yn Gymraeg neu'n Saesneg. Deg allan o ddeg." - Bethan Mair
Dyma nofel gynnil, delynegol, a'r mynydd a'i dymhorau yn gymeriadau amlwg ynddi. Mae'n codi cwestiynau ynglyn â pharhad ffordd o fyw, Cymreictod a'r syniad o berthyn.
Pan ddaw Owen i aros yn y bwthyn ar fferm fynyddig Enoch ac Isaac, mae bywydau'r tri yn newid am byth. Mae tensiynau rhwng y tad a'r mab, a'r tawelwch rhyngddynt yn adrodd cyfrolau. Mae dyfodiad Owen yn codi sawl crachen o'r gorffennol, ac wrth iddo ddod i adnabod y mynydd a'i ddiwylliant, fe ddaw i'w adnabod ei hun.
Caryl Lewis is an award winning Welsh language novelist. She was raised in Aberaeron before moving at the age of twelve to her family's farm in the parish of Dihewyd. She is an alumnus of Durham University and University of Wales Aberystwyth. Her first novel, Dal hi!, was published in 2003.
Fatha tasa emo di gofyn i ChatGPX droi pennod eitha diddorol o Cefn Gwlad i mewn i’r nofel ystrydebol fwya diffaith a depressing erioed. Crist o’r nef.