"Byddai'n mynd i uffern, yn siwr. Dyna oedd y dylluan - arwydd gan Dduw ei fod wedi ei gweld hi. Arwydd y byddai'n cael ei dal, a'i chosbi."
Dolgellau 1833, ac mae bywyd tawel Ann Lewis, 18 oed, yn gwella'n arw. Mae'n cael swydd newydd mewn siop ddillad yn y dref ac mae gwas ffarm golygus o'r enw Elis Edwards yn dangos diddordeb mawr ynddi. Beth all fynd o'i le?
Dyma stori gyffrous a hynod ddarllenadwy sydd wedi ei seilio ar ffeithiau go iawn am gyfnod creulon a chythryblus yn ein hanes gan awdures sy'n feistres ar ei chrefft.
Mae hanes Ann Lewis yn gafael o'r cychwyn, mae'r awdur yn rhoi cig a gwaed go-iawn i'r ychydig ffeithiau sydd ganddi am y ferch o Ddolgellau. Stori hen ffasiwn, dim tro dirgel nag arwain y darllenwr ar gyfeiliorn sy'n digwydd mewn cymaint o straeon dyddia' 'ma!
Wedi darllen hwn am yr ail waith a wedi ei fwynhau cyngymaint a’r tro cyntaf. Mor rhwydd i’w ddarllen efo stori a chymeriadau da sydd yn teimlo’n fyw i’r darllenydd.
Roedd y dechrau yn eithaf araf i fi, ond roedd y stori mynd mor hudol. Daeth y diwedd yn sydyn heb i fi ddisgwyl diwedd fel hyn. Mae'r stori eithaf trist, annisgwyl ac yn hanesyddol. Diddorol iawn!