Nofel drefol yw Caersaint sy'n dilyn ymdrechion Jaman Jones i'w "ganfod ei hun" wedi iddo etifeddu ty Arfonia Bugbird. Down i gwrdd a'i gymdogion a'i gyfeillion newydd, yn eu plith Babs Inc, golygydd y papur lleol, yfwyr ffraeth y Mona, a Tonwen Bold y mae ei gwr, y dyn busnes Med Medra, am "godi Caersaint yn ei hol". Ond nid yw'r darpar faer wrth fodd pawb, ac mae angen rhywun i'w herio...
Stori hwyliog, grafog sy'n darlunio bywyd mewn tref Gymraeg ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.