Mae hanes Cymru yn llawn straeon. Straeon doniol, trist, cyffrous, arwrol a hudolus. Eto un stori yw hi, mewn gwirionedd. O oes i oes, o fro i fro, gallwn weld yr un un stori drachefn a thrachefn drwy Gymru gyfan gan glymu'r cymoedd a'r dyffrynnoedd i gyd yn un gelyn yn ymosod; y Cymry yn gwrthsefyll ac yn y diwedd yn goroesi. Bu r Rhufeiniaid, y Sacsoniaid, y Llychlynwyr, y Normaniaid a r Prydeinwyr yn ceisio n sgwario a n creu yn dalaith ymylol i w hymerodraethau mwy. Ond rydan ni yma n annibynnol o hyd, ac yn adrodd yr hanes gyda balchder. Er ein bod yn wlad unedig drwy hyn i gyd, gallwn hefyd ddathlu r gwahanol benodau bychain o fewn yr hanes mawr. Mae gan bob mynydd a llyn, castell a llan ei chwedl a i hanesyn. Adrodd straeon y cyrion sy n rhoi calon i wlad. Mae r baledi hyn yn mynd ni i bob cwr o Gymru, yn dathlu r holl gyfoeth amrywiol ac yn gweu r cyfan yn un gyfrol. A collection of stories and ballads on the history of Wales over the centuries, comprising 73 stories and 73 ballads portraying the story of the people and their land - a story of onslaught, resistance and survival.