Nofel sy'n llawn tensiwn o'r dechrau i'r diwedd. Mae Einir yn cwrdd â chymar delfrydol ar y we, heb sylweddoli bod hwnnw'n byw ar yr un stryd â hi. Mae'n cael ei rhwydo a'i thwyllo gan Y Stelciwr.
Sai'n siŵr am y llyfr hwn. Yr ysgrifen yn dda ond mae rhywbeth o'i le gyda'r pwnc. Dyw hi ddim yn syniad da i gyhoeddi stori ble mae stelciwr yn ennill.
This entire review has been hidden because of spoilers.
Roedd y llyfr hwn yn ddiddorol, ond hefyd yn iasol, yn enwedig efo'r diwedd - mae'r boi wedi bod yn stelcio'r ferch hon, ar site deitio, ac yn ffonio hi yn y nos, anfon negeseuon efo'i lluniau noeth a llawer mwy, hyd at yddi hi symud i mewn i ty y dyn er mwyn iddi hi teimlo'n saff, ac yn y diwedd, mae hi'n dod i adnabod bod y dyn hwn wedi ei stelcio, ac mae'n debyg eu bod dal efo'u gilydd? Dim ond achos dydyn nhw'n ddau ddim eisiau fod yn unig. Mae'n od iawn i fi, ond, stori sydin bach diddorol yn bendant.