Un o'r llyfrau cyntaf am feicio yn Gymraeg. Profiadau Cymro yn beicio rownd Cymru a Ffrainc mewn llyfr sydd hefyd yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i'r maes, sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd. Mae'n ysgrifennu am ei salwch a sut mae beicio wedi ei helpu i ddod dros rhai anawsterau. Dylai pawb sy'n beicio neu sy'n dilyn beicio brynu'r llyfr hwn!