"Nofel gyfareddol am berson hynod o ddiddorol" Mary Ann Constintine Bardd... chwyldroadwr... caethwas i gyffuriau... a’r ffugiwr llenyddol mwyaf yn hanes Ewrop. Ond pwy oedd Iolo Morganwg? Arwr oedd yn gyfrifol am greu Gorsedd y Beirdd? Neu dwyllwr diegwyddor? Mae’r nofel fyrlymus hon yn ceisio ateb y cwestiynau hyn trwy ddilyn dychymyg un o gymeriadau mwyaf lliwgar y Cymry erioed. Mae’r stori anturus yn mynd â ni o’r Bont-faen i “bordellos” moethus Covent Garden, ac o fwthyn yn Nhrefflemin i wrandawiad o flaen y Cyfrin Gyngor yn Stryd Downing. Mae hefyd yn ceisio datrys rhai o ddirgelion y dyn enigmatig pam y ffugio? A pha arwyddocâd cyfrinachol oedd y tu ôl i seremoniau’r Orsedd?