"Llais newydd hyderus ym myd sgrifennu ditectif Cymraeg." Jon Gower
Nofel dditectif boblogaidd gyfoes a thywyll wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Mae'n adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Sgandi poblogaidd. Ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yn y twyni mae dau dditectif, Taliesin ac MJ, yn mynd ar drywydd y llofrudd.
Doedd dim posib peidio troi'r ddalen...roedd y lleoliadau yn gyfarwydd a braf gweld nofel yn pontio dalgylch Aberystwyth, Llanelli a Llanbed - mannau cyfarwydd ond nid lleoliadau sydd wedi'u godro hyd syrffed fel cefnlen i nofelau Cymraeg. Cymeriadau credadwy ond eto'n unigryw ac yn aflonyddu rhywun wrth ddarllen. Rhaid oedd prynu'r ail a dechrau darllen yn syth bin!
Wnes i wir mwynhau'r llyfr yma. Dwi'n hoff iawn o'r genre yma o lyfrau, ac felly yn mwynhau gallu cael nhw yn Gymraeg. Dwi'n credu yr unig beirniadaeth sydd gen i yw bod y ffordd mae'n siarad am Dr Rush yn teimlo bach yn anghyffyrddus ac yn ddiangen, ond heblaw am hwnna, llyfr dda :)
Un o’r nofelau Cymraeg gorau i fi ddarllen erioed. Mae’r cymeriadu’n wych. Fy unig feirniadaeth yw bod y diweddglo yn ddisymwyth ac annisgwyl, gyda cliffhanger masif. Bydd rhaid darllen gweddill y gyfres yn sicr.