"Does dim dwywaith fod Heiddwen Tomos yn awdur cyffrous all ddarlunio conglau tywyllaf byd amaeth cefn gwlad mewn modd byw a chignoeth; er y tywyllwch, mae'r elfennau tynerach a'r hiwmor yn ei liniaru.” - Annes Glynn, Cylchgrawn Barn "Cloben o nofel sy'n rhoi i ni'r aelaethus o drist a'r doniol iawn." Meinir Pierce Jones Nofel gignoeth gan Heiddwen Tomos sy'n sôn am berthynas tad-cu gyd a'i ddau ŵyr. Mae'r cymeriadau, a'u perthynas â'i gilydd, yn annwyl, yn gredadwy ac yn gofiadwy. Mae themâu cyfoes a thraddodiadol yma, megis perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr a chariad, ac mae'r ddeialog a'r naratif yn llifo a hiwmor yn frith drwyddi.