Nofel gan Haf Llewelyn. Mae'r stori'n troi o gwmpas cymeriadau tref fach lle mae rhai teuluoedd wedi ymgartrefu ers cenedlaethau ac eraill yn newydd-ddyfodiaid. Pan mae dieithryn yn ailymweld â'r dref, mae'n codi crachen o'r gorffennol. Nofel lle mae cyfrinachau'n cuddio dan yr wyneb a'r cymeriadau cryf yn dal eu gafael ar y darllenydd. “Gyda phlot digon gafaelgar a chnwd o gymeriadau amrywiol, mae yma nofel ddifyr, hawdd ymgolli ynddi. Rwy’n awgrymu eich bod yn gwneud eich hun yn gysurus, gyda’ch traed lan...” - Aled Islwyn, Cylchgrawn Barn