Jump to ratings and reviews
Rate this book

Byw yn fy Nghroen - Profiadau Pobl Ifanc Sy'n Dioddef yn Dawel

Rate this book
Profiadau dirdynnol 12 o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hir dymor. Mae'r cyfranwyr yn trafod yn fanwl afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn's, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gor-bryder. Dyma bobl ddewr sydd yn mynnu dweud eu stori er mwyn helpu pobl eraill sy'n dioddef drwy ddangos sut y maen nhw wedi gallu byw yn eu croen eu hunain.

Erin Hughes - Myasthenia gravis; Iestyn Tyne - Clefyd Siwgr Teip 1; Caryl Bryn - Iselder a gorbryder; Lois Mererid - Ulcerative Colitis; Arddun Rhiannon - Iselder a gorbryder; Rhiannon Lloyd Williams - ME; Liwsi Mo - Epilepsi; George Bowen Phillips - Spina Bifida; Mared Jarman - colli golwg, clefyd Stargardst; Elis Derby - OCD, Beatrice Edwards - canser y gwaed yn 17 oed; Sioned Rowlands - Acne.

176 pages, Paperback

Published June 1, 2019

4 people are currently reading
10 people want to read

About the author

Sioned Erin Hughes

9 books1 follower

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
24 (66%)
4 stars
9 (25%)
3 stars
3 (8%)
2 stars
0 (0%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 of 1 review
Profile Image for beyond_blue_reads.
240 reviews3 followers
October 16, 2021
Mae llyfr hyn yn cofnodi profiadau 12 person ifanc sydd wedi neu sydd dal i fod yn byw gydag amryw o gyflyrau hir dymor - iselder a gorbryder, cancr, anabledd, a chlefyd siwgr, a nifer o gyflyrau eraill - yn eu geiriau nhw eu hun. Mae lleisiau a phersonoliaethau unigryw'r bobl ifanc yn dod trwodd yn glir, ac mae'r ysgrifennu naturiol yn cyfoethogi'r profiad o ddarllen.

Er bod profiadau pob un ohonynt yn wahanol iawn i'w gilydd, maen nhw i gyd yn cyfleu aeddfedrwydd a doethineb y tu hwnt i'w hoedrannau - doethineb sydd yn anffodus dim ond yn dod at y rheini sydd wedi blasu chwerwder bywyd, ac sydd wedi profi pa mor fregus mae ein cyrff a'n meddyliau yn gallu bod.

Mae'r bobl ifanc hyn wedi bod yn hael iawn yn eu parodrwydd i rannu profiadau personol mewn ffordd hollol agored. Bydd y llyfr yn gysur mawr i unrhyw un sy'n gwynebu salwch; ac yn agoriad llygaid i eraill sydd am ddeall beth yw realiti byw gyda chyflwr hir dymor o unrhyw fath.
Displaying 1 of 1 review

Can't find what you're looking for?

Get help and learn more about the design.