Mae moroedd/dŵr yn ddilyniant cysyniadol o gerddi, ac fe ddaw o’r wasg fisoedd yn unig cyn cyhoeddi cyfrol gyntaf Morgan, Bedwen ar y lloer.
Cerddi am foroedd yw y rhain, ond rhai oriog a chyfnewidiol, fel y profiadau maen nhw’n gyfrwng iddynt. Ble mae tynnu ffiniau rhwng moroedd? Pryd daw dŵr yn fôr? Yn yr un modd, pryd mae presenoldeb yn troi’n berthyn? Pryd daw dadrith yn benllanw? A phryd y daw diwedd yn ddechreuad?
O Ferthyr Tudful y daw Morgan Owen yn wreiddiol, ac mae stamp y lle hwnnw yn gryf ar lawer o'i waith. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau ‘Awduron wrth eu Gwaith’ Gŵyl y Gelli a ‘Her 100 Cerdd’ Llenyddiaeth Cymru. Bu’n fardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, ac yn Fardd y Mis Radio Cymru yn gynharach eleni.
Dyma adeg dda felly i lywio casgliad o’i waith drwy’r wasg, ac mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o fod wedi cael y cyfle i gydweithio â’r bardd yn hyn o beth. Comisiynwyd yr artist Timna Cox i greu delweddau yn ymateb i'r cerddi, ac mae'r rhain yn ychwanegu ymhellach at naws y casgliad.
“O’r graig uwch cyd-anadlu’r dref sy’n dal ei chalon yn dynn yn hollt y lan, chwiliaf yn y chwâu am air i rywdo lliw y Fenai, gair i’w hyrddio’n llun ail-law atat ti dros y cyrs mewn dinas ar y llaid.”
(o “Ben Twthill”)
*
roedd y llyfr ’ma yn anodd iawn i ddarllen achos roedd llawer (weithiau gormod, i mi fel dysgwr) o eiriau barddol nad oeddwn i’n adnabod, felly ro’n i angen defnyddio geiriadur am bob cerdd. NEVERTHELESS: “Ben Twthill” ydy rŵan un o’m hoff gerddi mewn unrhyw iaith, efallai dim ond achos mod i wedi bod yno, ar ben y Ben (mar gum b’ eadh). sàr-dhàn. ac os oedd y cerddi arall yn anodd i mi ddallt, pan o’n i wedi chwilio’r geiriau ro’n i angen yn y geiriadur, liciais i bob un ohonyn nhw. dw i’n disgwyl basai siaradwyr gwir y Gymraeg yn eu licio nhw’n well nag oeddwn i.
(dw i’n siŵr bod fy ngramadeg yma yn ofnadwy; sori @ siaradwyr/darllenwyr y Gymraeg os darllennwch chi hyn. dw i ddim yn medru ond trio.)