“Nid carafanio yw bywyd. Holl bwynt carafanio yw ymneilltuo oddi wrth fywyd. Ond drwy wneud hynny, mae rhywun yn deall ei bywyd yn well.”
Imi gall y brawddegau ‘ma tua ddiwedd y llyfr gynrychioli prif thema’r gwaith. Drwy weithgareddau beunyddiol y teulu yn ystod wythnos o wyliau yn Lloegr ydyn ni’n gweld i mewn i feddwl y tad: Mae o’n defnyddio pob digwyddiad cyffredin fel defnydd ar gyfer ei grwydrau athronyddol. Mae o’n dangos dyfnder ei deimladau i ni, bob tro yn amau a gwirio ei hun: ei wrwydod, ei allu fel tad ei blant, ei leoliad a dosbarth yn y gymdeithas.
Dim ond pedwar cymeriad sy yn y stori: Dadi, Mami, Flei a Cena. (Flei a Cena ydy ffug-enwau’r plant). Does dim disgrifiadau corfforol ohonyn nhw o gwbl, braidd. Mae’n nhw’n flanciau. Felly, dwi’n cymryd nhw fel model o deulu’r awdur, neu o Dadi o leiaf. Basai’r digwyddiadau’n ffug, efallai, ond pan mae Dadi yn siarad neu athronyddu dwi’n clywed llais yr awdur ei hun. A drwyddo dwi’n teimlo ‘mod i’n nabod meddyliau Guto Dafydd yn arbennig o dda!
DYSGWYR: Mae’r llyfr hwn yn gampus fel stwff dysgu. Mae’r iaith ychydig yn ffurfiol (llawer o’r berfau mewn ffurf syml presennol), ond mae hi’n gyfoes. Does dim byd yma yn ymhongar neu gwirion. Mae’r ymdrech wrth ymchwilio pob un o’r geiriau bydd angen arnoch chi’n werthchweil!
Helynt teulu wrth fynd i garafanio am wythnos, o safbwynt y tad, sy'n defnyddio digwyddiadau pobdydd i fyfyrio dros themâu mawr bywyd.
Mae'r prif gymeriad i fod o gefndir dosbarth gweithiol, ond llais dosbarth canol sy'n dod trwyddo. Roedd hi'n anodd i fi uniaethu (ond bydd lot o bobl yn gallu): dyma stori teulu traddodiadol, heteronormal, gyda'u bywydau'n cylchdroi o amgylch eu plant.
Rhai digwyddiadau doniol, a lot o fyfyrdodau diddorol, ond gan fwya doedd dim digon o bethau i gynnal fy niddordeb; ac roedd gormod o in-jokes diwylliannol, a chyfeiriadau barddonol do'n i ddim yn gyfarwydd â nhw.
Roedd yn od iawn darllen llyfr yn bennaf yn y presennol. Mae cymaint o storïau diddorol a doniol yno, ac mi nes i chwerthin llawer. Mae'r teulu yn mynd ar wyliau yn y carafán am wythnos pan mae cegin newydd yn cael ei ffitio yn eu tŷ. Mae dau blentyn yn lliwio'r bywyd yn ystod yr wythnos ac wrth gwrs maen nhw'n arbrofi straeon gwahanol. Nes i fwynhau!
Mae “Dadi” yn mynd ar wyliau mewn carafan efo’i bartner (“Mami”) a’u dau o blant bach. Ar wyliau mae gen ti amser i feddwl… A meddwl. A meddwl… Ydy e’n byw y bywyd cywir? Y bywyd go iawn? Oni ddylai fe fod yn well na hyn? All e ddim jyst anghofio am y teulu a mynd i’r dafarn i ddarllen ei farddoniaeth ar ei ben ei hun? Plîs?
Nofel onest sy’n rhannu mewnwelediad treiddgar i fywyd teulu modern Cymraeg. Rwy’n ddiolchgar i Guto Dafydd am ddechrau fy siwrne yn darllen llenyddiaeth Cymraeg eto.
[English follows] Difyr iawn. Mae teulu yn cael gwyliau carafan, gyda llawer o fyfyrio ar fywyd heddiw, Cymru Gymraeg, bod yn rhiant, ac ati. Does dim llawer o stori fel y cyfryw. Yn fy atgoffa o waith Karl Ove Knausgaard mewn sawl ffordd (y dull, rhai o themau) ond yn llai hirwyntog. Dim yn hollol siwr beth dw'i'n meddwl o'r enwau "Dadi" a "Mami" - falle yn adlewyrchu sut mae bod yn rhiant i blant bach yn disodli'ch personoliaeth? Yr un cwestiwn yn codi gyda gwaith Karl Ove - ffuglen, hunangofiant, ffuglen hunangofiannol?
Very entertaining. A family goes on a caravan holiday, with a lot of thoughtful pieces on life today, Welsh-speakers in Wales, being a parent, and so on. This reminded me quite a lot of the work of Karl Ove Knausgaard in several ways (style, some of the themes) but much less long-winded. Not sue what I think about the names "Dadi" and "Mami" - perhaps reflecting how being the parent of small children takes over your personality? As in the work of Karl Ove, is this fiction, memoir, autobiographical fiction?