Merch dawel a swil yw Alys, sy'n ddigon hapus yn gweithio yng nghegin ysgol y pentref... hynny yw, nes i'r gegin honno gau. Penderfyna wneud cais am swydd mewn bwyty lleol sydd newydd gael ei brynu gan gogydd teledu enwog - cogydd sydd ddim yn hoffi'r syniad o ferched yn gweithio yn ei gegin.
Ers iddi fod yn ferch fach roedd Rebecca wrth ei bodd yn dweud straeon, ac o fod yn ifanc iawn gwyddai mai ysgrifennu nofelau oedd hi am wneud. Ers graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae Rebecca wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd. Mae hi'n byw Mhrestatyn, gyda’i gŵr a phlant. Enillodd #Helynt, ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Wobr Tir na n-Og 2021 a Llyfr y Flwyddyn Plant a Phobl Ifanc 2021.
From a very young age Rebecca knew that she wanted to be a novelist. Since graduating from Bangor University with a BA(hons) in English and Creative Writing Rebecca has worked as a teacher, Welsh development officer, humanist celebrant and translator. She lives in Prestatyn, with her husband and children. Her first YA novel, #Helynt, won a 2021 Tir na n-Og Award and the 2021 Book of the Year (Children and Young People Category).
Very readable, great characters and a strong story line. It's not often you get books, either set in or in the language of this locality, so it was great to read a book in such familiar language (Rhyl area Welsh). The story was also enjoyable - it had a strong story line and the characters were very real. I would recommend this to anyone, I thoroughly enjoyed it. It is suitable for advanced Welsh learners, as well as those fluent in the language.
Dim nofel fyswn i wedi dewis ei ddarllen oherwydd fod o'n swnio fel nofel 'run of the mill' rhamantus ond chefais fy mhlesio ar yr ochr orau oherwydd fod Mudferwi yn fwy na hyn. Mae yna ddyfnder i'r nofel a tydi o ddim wastad yn mynd y ffordd 'da chi'n ei ddisgwyl. Nofel hawdd ei ddarllen a werth eich amser. 3 seren a hanner!
Llyfr ardderchog, gyda cymeriadau credadwy a hoffus, mewn stori hyfryd a lenyddol sy wedi cael ei leoli mewn ardal prydferth. Ro'n i'n wrth fy modd gyda bob tudalen. Darllen y llyfr 'ma - fydde di ddim yn siomedig!
3.5 seren! ⭐️ Nes i ddarllen hon mewn deuddydd - nofel mor hawdd i’w darllen efo prif gymeriad hawdd i uniaethu â hi, a sy’n dod a’r darllenwr ar daith efo hi wrth i’w chymeriad a’i hyder ddatblygu ar hyd y stori. Braf hefyd cael nofel wedi’i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru, sy’n beth prin!
Roedd hwn yn rili da - ysgafn a phleserus. Mae'r prif gymeriad, Alys, yn hawdd i wneud cysylltiad â hi ac yn hawdd i lico. Roedd y berthynas oedd yn datblygu rhyngddi hi a'i bos hi, Duncan, yn slow-burn a wedi ei phortreadu yn realistig. This was really good - light and enjoyable. The main character, Alys, is relatable and likable. Her relationship with her boss, Duncan, was slow-burn and realistically portrayed.