Pwy yw'r tair Cymraes ecsotig yr olwg sydd wedi ymgartrefu mewn hen gastell yn Iwerddon? Pwy yw Meg, y plentyn bach bywiog sydd fiw i chi ei chroesi? A be wnaiff hi pan gaiff hi wybod be ddigwyddodd i'w mam go iawn ac mai ei thad oedd yn gyfrifol?
Cewch ddilyn sawl sgwarnog yn y nofel hon - drwy'r hud a'r lledrith, y rhyw a'r rhialtwch.
Mwynheiais i'r llyfr yn fawr iawn. Mae'n dilyn stori Siwsi drwy ei merch Meg. Nes i fwynhau cael wybod am ei holl fywyd, o fabandod i oedolyn. Mae Meg yn dysgu llawer ar hyd y flynyddoedd, ac yn y diwedd yn gallu maddau yn fwy na beth naeth ei mam.