Jump to ratings and reviews
Rate this book

#Helynt

Rate this book
Mae Rachel Ross yn treulio llawer o'i hamser y tu allan i'r ysgol yn gofalu am ei mam, sy'n dioddef o iselder, a'i chwaer fach; ond uchafbwynt ei hwythnos yw sesiynau'r grŵp drama mae hi'n aelod ohono. Mae hi'n teimlo'n saff yno ... yn wahanol i'r ysgol lle mae hi'n cael ei bwlio o ganlyniad i'w hanabledd.
Collodd Rachel un o'i choesau ar ôl dioddef o lid yr ymennydd pan oedd yn blentyn bach... ond fyddai neb ddim callach o hynny gan ei bod yn hyderus a streetwise (ac yn gwisgo fel goth). Ond mae'r hyder hwnnw'n cael ei brofi i'r eithaf pan mae'n cyfarfod perchennog clwb nos lleol, ac yn darganfod cyfrinach deuluol all newid ei bywyd am byth.

Paperback

Published October 1, 2020

2 people are currently reading
16 people want to read

About the author

Rebecca Roberts

11 books19 followers
Ers iddi fod yn ferch fach roedd Rebecca wrth ei bodd yn dweud straeon, ac o fod yn ifanc iawn gwyddai mai ysgrifennu nofelau oedd hi am wneud. Ers graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae Rebecca wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd. Mae hi'n byw Mhrestatyn, gyda’i gŵr a phlant. Enillodd #Helynt, ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Wobr Tir na n-Og 2021 a Llyfr y Flwyddyn Plant a Phobl Ifanc 2021.


​From a very young age Rebecca knew that she wanted to be a novelist. Since graduating from Bangor University with a BA(hons) in English and Creative Writing Rebecca has worked as a teacher, Welsh development officer, humanist celebrant and translator. She lives in Prestatyn, with her husband and children. Her first YA novel, #Helynt, won a 2021 Tir na n-Og Award and the 2021 Book of the Year (Children and Young People Category).

Ratings & Reviews

What do you think?
Rate this book

Friends & Following

Create a free account to discover what your friends think of this book!

Community Reviews

5 stars
28 (51%)
4 stars
21 (38%)
3 stars
3 (5%)
2 stars
2 (3%)
1 star
0 (0%)
Displaying 1 - 6 of 6 reviews
Profile Image for Jools.
372 reviews2 followers
December 12, 2020
Llyfr ardderchog am enneth anhygoel gyda calon aur pur. Dw i'n dwli arni hi!
Edrych ymlaen at y llyfr nesaf am Rachel a'i theulu
Profile Image for Judith.
1,046 reviews5 followers
March 20, 2021
Mi wnes i wir fwynhau hwn. Mae'r stori a'r cymeriadau yn gredadwy iawn a mae 'na ambell i linell ddoniol yma hefyd. Dwi mor falch fod Rebecca Roberts wedi sgrifennu'r nofel yma i oedolion ifanc - mae wir angen mwy o lyfrau fel hyn. Mae'r llyfr yn haeddu fod ar rhestr fer Gwobr Tir N'a Nog - pob lwc, Rebecca!
68 reviews2 followers
January 26, 2021
Wnes i mwnahau y llyfr hon. Wnes i licio'r prif gymeriad - mae hi'n hogan cryf. Roedd y stori yn dypin bach o 'page turner', wnes i isio gwybod beth sydd yn mynd i digwydd nesa. Stori dda. Dwi wedi mwynhau o digon i darllen (a mwynhau) o dwy waeth. Edrych ymlaen at darllen mwy am Rachel!
456 reviews3 followers
November 28, 2021
Dw i wedi mwynhau'r llyfr hwn yn fawr iawn. Yn ni'n gweld sut yw byw gyda choes prosthetig heb fod hynny yn pwnc y stori.

Mae'n dangos abiws domestig mewn ffordd diddorol ac gyda rhai ddealltwriaeth o'r tramgwyddwr.
384 reviews
April 7, 2021
Gwych. Wedi mwynhau yn fawr iawn. Cymeriadau credadwy.
Profile Image for Catrin Lyall.
7 reviews1 follower
April 18, 2025
Wnes i fwynhau’r nofel hon! Roedd adnabod rhai o’r lleoliadau yn helpu (a tybed ydw i’n adnabod Mr Tate?!) ac mae’r stori a’r cymeriadau’n gredadwy. Mae Rebecca wedi creu nofel sy’n trafod themau y mae gwir eu hangen mewn llenyddiaeth Gymraeg i arddegwyr.
Dwi’n gobeithio gallwn ni archebu set i’r ysgol ac y ca i ei darllen gyda rhyw ddosbarth!
Displaying 1 - 6 of 6 reviews

Can't find what you're looking for?

Get help and learn more about the design.