Ffeindio llyfr fel hwn yn beth brin iawn. Mae’r llyfr yn syfrdanol, yn dorcalonnus ac yn galonogol ar yr un pryd.
Mae cymaint o resymau i’w ganmol, mae’n anodd penderfynu lle i ddechrau.
Mae’r ddau brif gymeriad yn cael eu portreadu’n hardd, yn gynnil, yn realistig fel eu bod yn byw ar y dudalen. Rydyn ni’n dod i nabod nhw trwy eu diddordebau, trwy eu problemau, trwy eu hiaith, trwy sut maen nhw’n teimlo am eu teuluoedd a phobl eraill- jyst fel rydyn ni’n dod i nabod pobl mewn bywyd go iawn. Mae’r ddau yn wahanol iawn mewn personoliaeth, cefndir, sgiliau ond rhywsut rydyn ni’n gwybod yn syth eu bod nhw’n gallu bod yn ffrindiau da.
Mae iaith y nofel yn drawiadol ac yn anarferol. Mae’r ddau brif gymeriad yn rhannu’r adroddiad a'u hiaith nhw’n wahanol iawn. Tra bod Deian yn siarad Cymraeg safonol, cywir, mae Anest wedi dysgu’r iaith ac yn siarad cymysg o fratiaith a Wenglish. I mi, mae’n swynol, doniol a dw i’n credu’n realistig iawn. Oherwydd y ffordd mae Deian ac Anest yn siarad mae cyferbyniad rhyngddyn nhw a rhythm difyr yn yr adroddiad.
Mae strwythur y nofel yn gweithio yn wych, dw i’n credu; weithiau mae sgwrs wyneb i wyneb, weithiau mae sgwrs Snapchat ac weithiau mae’r ddau yn myfyrio ar wahân. Mae hynny’n dod â’r darllenydd i mewn i’w meddwl. Mae’r ysgrifen yn fedrus iawn ac yn bwerus ac o ran dangos meddwl a theimladau’r cymeriadau, nofel orau i mi ei ddarllen erioed yn unrhyw iaith yw hi.
Mae themâu’r llyfr yn berthnasol, yn bwysig ac yn drist ofnadwy. Mae’r nofel yn dilyn problemau difrifol iechyd meddwl y ddau gymeriad a gan fod y darllenydd yn cael ei wahodd i deimlo empathi a hyd yn oed uniaethu â nhw, dyw hi ddim addas i bawb.
Yn wirioneddol, yn fy marn i, hwn yw un o’r pum nofel orau dw i erioed wedi darllen yn unrhyw iaith. Mae’n anhygoel oedd yr awdur mor ifanc pan fu hi ei hysgrifennu. Bydd y cymeriadau annwyl, deallus, swynol hyn yn byw gyda mi am amser hir iawn.