Nofel hwyliog a sensitif am gyfeillgarwch a sefyllfa merched hyn. Rydym yn dilyn diwrnod ym mywyd Lili Daniels, awdures 50 oed, sy'n cael trafferth darganfod ei hawen a hithau'n ceisio ysgrifennu ei phumed nofel.
Llyfr hawdd i’w ddarllen. Wedi mwynhau ei bigo fyny i ddarllen ychydig o dudalennau pob noson. Wedi gwenu dipyn drwyddo, ac yn hoffi fod dim posib dweud beth oedd i ddod ar y tudalennau nesaf gan fod cymaint o bethau annisgwyl yn digwydd. Llyfr da iawn :)
Gret yw canfod llyfr hwyliog sydd yn trafod materion dwys, gyda hiwmor a thafod mewn boch. Dwi’n teimlo fel swni’n adnabod y cymeriadau a buaswn wrth dy modd yn eu cwmni.