Dyma'r ail o bum nofel yng nghyfres Y Pump. Mae Tami yn un o griw’r Pump, sydd ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Ond mae ei chyfeillgarwch gyda’i ffrindiau yn cael ei brofi i’r eithaf gan berson newydd sy’n dod i mewn i’w bywyd...
Hyfryd o lyfr! Braf oedd cael darllen stori gyda chymeriad mor amlhaenog â Tami, a hefyd cael camu i 'sgidiau person anabl. Mae'n bwysig rhannu straeon fel yr un hon sy'n agor eich llygaid ar safbwynt gwahanol.
Da iawn i'r awduron! Rwy'n disgwyl 'mlaen at ddarllen gweddill y straeon yn y gyfres.